DIWRNOD DU YN Y TIR CRAS

Gwyn Thomas

“Heddiw,” meddai Chris,
“Am ychydig o ddoleri
Fe fydda i, unwaith eto,
Yn fy ngalw fy hun yn ‘Cwmwl Gwyn’,
Fy enw i mewn Nafaho;
Fe beintia i fy hun â lliwiau rhyfel,
Fe wisga i blu,
Eisteddaf ar fy ngheffyl llwm,
Dywedaf hen eiriau fy nghyndadau
Ac actio bod yn fi fy hun.

“Fe ga i dynnu fy llun,
Fy saethu gyda fideo,
Fe wna i ychydig driciau
Ac yna, yna
Mi a’ i’n ôl i’r tiroedd cadw.”

Yn y wlad ddolerus hon,
Yma, a minnau’n Gymro,
Fe gydia yn fy nghalon
Iasau oer o ofn –
Pryd y bydd hyn yn digwydd i mi,
A phryd y bydda i yn fo.

Gwyn Thomas is emeritus professor of Welsh at the University of Wales, Bangor, and the present Welsh national poet

© Commission for Racial Equality, 2006

[print this article]